Tref y Gwyddel
Ar ddiwrnod braf yn
y gaeaf,
Mae'n heulog yn Nhrewyddel,
Dim ond swn y mor
yn y man,
A'r afon, a neb yn
unman.
Neb ond ni.
Ni a'r adar a'r morgrug
man.
Ger y nant,
mae enwau'r milwyr
mud ar y groes
A ffynnon y pereinion
pell
Yn byrlymu o hud .
Mae Awen a Ceibwr
yr hen ffrindiau
Yn dweud eu storiau
A'r bont yn gwrando'n
astud.
Fel hen wraig ddoeth,
Saif y gromlech ar
ochor ucha'r cwm.
Dewch gyda ni ar y
llwybr llwyd lliwgar at y traeth.
Ar orwel rwyn gweld
Hen Wyddel~y Gwyddel
a aeth ar goll.
|